Grŵp Trawsbleidiol ar Hinsawdd, Natur a Lles
17:00 – 18:00
04.05.2023
Cyfarfod ar-lein dros Zoom
1. Croeso a chyflwyniad
Delyth Jewell AS
2. Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Delyth Jewell AS
3. Rhiannon Hawkins, cynrychiolydd pobl ifanc Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ac un o ymddiriedolwyr y Green Economics Institute
4. Trafod a chyflwyno gwaith diweddar
5. Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru
6. Unrhyw fater arall a dyddiad y cyfarfod nesaf
Delyth Jewell AS
Ymddiheuriadau: Rhys ab Owen AS, Rob Palmizi, Judith Musker Turner
Yn bresennol:Ioan Bellin (IB), Lewis Brace (LB), Delun Gibby (DG), Antonia Fabian (AF), Anouchka Grose (AG), Rhiannon Hawkins (RH), Molly Hucker (MH), Ollie John (OJ), Kate Lowther (KL), Madelaine Phillips-Welsh (MPW), Kathryn Speedy (KS), Poppy Stowell-Evans (ABCh), Beth Taylor (BT), Oscar Williams (OW)
Aelodau o’r Senedd yn bresennol:Delyth Jewell AS (DJ)
Croeso a chyflwyniad - Delyth Jewell AS
Croesawodd DJ y grwpiau a soniodd am drefniadau yr ystafell o ran diogelwch.
Cofnodion y cyfarfod diwethaf - Delyth Jewell AS
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod diwethaf heb addasiadau.
Rhiannon Hawkins, cynrychiolydd pobl ifanc ar gyfer Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, ac ymddiriedolwr yn y Green Economics Institute
Rhoddodd DJ drosolwg o ddiben y Grŵp Trawsbleidiol a chyflwynodd Rhiannon Hawkins, Cynrychiolydd Pobl Ifanc ar gyfer Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (RCPSych) ac ymddiriedolwr yn y Green Economics Institute.
Rhoddodd RH gyflwyniad ar newid hinsawdd a chyfiawnder rhwng cenedlaethau:
- Ni all pobl ifanc frwydro yn erbyn newid hinsawdd ar eu pennau’u hunain, yn hytrach, mae angen i bobl o bob oed a demograffeg gymryd rhan
- Mae RH wedi bod yn gweithio gyda Gweithgor Eco y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAHMS), ac yn gweithio gyda seiciatryddion i gefnogi pobl ifanc a seiciatryddion sydd â gofid eco
- Mae hi hefyd yn gweithio ar brosiect gyda Tide Global Learning i drefnu cynhadledd ym Mhrifysgol Caerdydd ar 29 Mehefin. Roedd y gynhadledd â’r nod o feithrin deialog rhwng athrawon a myfyrwyr i wneud cwricwlwm Cymru yn fwy addas ar gyfer sut mae pobl ifanc yn teimlo am y newid yn yr hinsawdd, a grymuso athrawon i fynd i’r afael â materion sy'n ymwneud â'r hinsawdd.
- Mae'r profiad o newid yn yr hinsawdd yn amrywio rhwng grwpiau oedran, dosbarthiadau, hiliau a diwylliannau, felly mae'n bwysig cynnwys y rhain i gyd yn y ddeialog er mwyn datblygu atebion. Mae angen i’r COP a'r Cenhedloedd Unedig fod yn fwy cynrychioliadol o'r grwpiau hyn.
- Mae hefyd yn bwysig fod pobl ifanc yn dechrau deialogau gyda phobl o lefelau uwch o ran awdurdod fel y gellir rhannu a chlywed eu safbwyntiau.
- Mae'n bwysig fframio, fel petai, rhwng cenedlaethau yn y fath fodd fel y gall pobl deimlo empathi a deall y sefyllfa.
- Byddai cynnwys pobl ifanc yn nhrafodaethau'r Senedd yn wych
- Gall defnyddio gwybodaeth frodorol, fel siarad â ffermwyr, hefyd fod yn ffordd wych o ddarganfod beth sy'n digwydd yn y gymuned leol.
- Mae angen sicrhau bod ymddiddori mewn materion newid hinsawdd hefyd yn hygyrch i bawb, er enghraifft nid yw protestiadau yn hygyrch i bobl ag anableddau penodol yn aml
Roedd JD yn croesawu’r cwestiynau a’r sylwadau gan y Grŵp, a thynnodd sylw at y ffaith bod y Grŵp hwn yn ceisio rhoi llwyfan i leisiau pobl ifanc mewn lleoliad trawsbleidiol a gwneud cysylltiadau rhwng grwpiau.
Myfyriodd OJ ar bwynt RH ynghylch sut yr ysgrifennir gwybodaeth am newid hinsawdd mewn ffordd academaidd iawn yn aml, a dywedodd fod Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi bod yn edrych ar eu hadnoddau i bobl ifanc, i sicrhau eu bod mor hygyrch â phosibl. Dywedodd OJ y byddai'r digwyddiad sydd i ddod yn gyfle da i roi arweiniad i ysgolion ar gyfer cynnal y sgyrsiau hyn.
Soniodd RH mai nod y gynhadledd yw datblygu siarter ar sail yr hyn y mae pobl ifanc ac athrawon ei eisiau o addysg ar hinsawdd.
Gofynnodd AR i RH beth oedd y syniadau mwyaf defnyddiol a ddeilliodd o ymweliadau’r Grŵp â phobl ifanc.
Atebodd RH fod y bobl ifanc yn aml yn cadw eu teimladau iddyn nhw eu hunain, ac nad oeddent yn gwybod sut i'w cyfleu. Roedd o gymorth i feddwl am yr amgylchedd o ran eu hamgylchedd uniongyrchol hwy fel pobl ifanc, i sicrhau eu bod yn gallu unieithu â’r materion hyn. Nododd RH yr arfer o blannu coed gyda grwpiau sgowtiaid fel enghraifft.
Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru - Poppy Stowell–Evans ac Oscar Williams
Rhoddodd PSE ddiweddariad i’r Grŵp ar weithgarwch diweddar Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru:
- Mae ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol wedi'i lansio mewn perthynas â ffoaduriaid hinsawdd, a bydd hon yn parhau dros y misoedd nesaf, yn edrych ar ddadleoli hinsawdd yn arbennig, a'r rôl y gall y DU ei chwarae wrth amddiffyn y ffoaduriaid hyn.
- Bydd y ddeiseb yn cael ei lansio ar 20 Mehefin a gobeithir y caiff digwyddiad i’w lansio ei drefnu.
Dywedodd OW fod sgwrs RH yn cyffwrdd â rhywfaint o'r gwaith y mae'r YCAs yn ei wneud i gynyddu lleisiau pobl frodorol a'r rhai y mae newid hinsawdd yn effeithio'n uniongyrchol arnynt. Mae OW hefyd yn estyn allan at ffoaduriaid Pacistanaidd yng Nghaerdydd a all siarad am y profiad o orfod ffoi o'u cartrefi oherwydd llifogydd.
Soniodd PSE, er mwyn i’r ddeiseb fod yn destun dadl yn y Senedd bod angen 100,000 llofnod arni. Mae YCA yn obeithiol o gyflawni hyn o fewn 6 mis, ac y bydd hyn yn agor y sgwrs ynghylch ffoaduriaid hinsawdd.
Ychwanegodd OW y bydd y deisebau'n cael eu dogfennu yn y Senedd os ydyn nhw'n cyrraedd eu targed.
Croesawodd DJ awgrymiadau ar gyfer cyflwyniadau neu bynciau sgwrs ar gyfer cyfarfodydd sydd i ddod.
Cyflwynodd DG ei hun fel pennaeth canolfan newydd Pentre Ifan, o'r Urdd, ac mae wedi gofyn am adborth y grŵp ar eu cyrsiau preswyl newydd sydd wedi’u seilio ar gynaliadwyedd. Dylai rhywun sydd ag unrhyw sylwadau ar y cyrsiau hyn anfon neges e-bost at delungibby@urdd.org.
Cododd OJ y posibilrwydd o wahodd y Gweinidog Addysg i gyfarfod yn y dyfodol i drafod sut y mae newid hinsawdd yn cael ei drafod mewn ysgolion.
Caiff dyddiad y cyfarfod nesaf ei bennu ar gyfer diwedd mis Mehefin.
Fe wnaeth DJ gloi'r cyfarfod, a diolchodd i'r rhai a oedd yn bresennol, a chynrychiolwyr Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru